Math | tref, resort municipality, railway point in Canada |
---|---|
Poblogaeth | 11,854 |
Sefydlwyd | |
Gefeilldref/i | Karuizawa |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Sea-to-Sky Corridor |
Sir | Squamish-Lillooet Regional District |
Gwlad | Canada |
Arwynebedd | 24,040 km² |
Uwch y môr | 670 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 50.1208°N 122.9544°W |
Cod post | V0N 1B0 V8E |
Tref cyrchfan yn Pacific Ranges deheuol y Coast Mountains yn nhalaith British Columbia, Canada, yw Whistler, a leolir tua 125 cilomedr i'r gogledd o Vancouver. Caidd ei gorffori fel Resort Municipality of Whistler (RMOW), ac mae ganddi boblogaeth barhaol o 9,965, yn ogystal â phoblogaeth fwy o weithwyr sy'n mynd a dod, fel arfer pobl ifan o British Columbia, ond hefyd o Awstralia ac Ewrop.
Mae dros dwy miliwn o bobl yn ymweld â Whistler pob blwyddyn, yn bennaf ar gyfer sgio alpaidd a beicio mynydd yn Whistler-Blackcomb. Mae'r pentref sydd wedi ei gynllunio ar gyfer cerddwyr wedi ennill nifer o wobrau dylunio ac mae Whistler wedi cael ei hethol yn un o brif gyrchfannau Gogledd America gan y prif gylchgronau sgio ers canol yr 1990au. Mae Whistler yn gwesteio'r cystadleuaethau sgio Llychlynnaidd, luge, ysgerbwd, a bobsled ar gyfer Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010.